Croeso i BTO Cymru

Sefydlwyd BTO Cymru er mwyn cael llais Cymreig ac agwedd Gymreig ar faterion sy'n bwysig i adar Cymru. Mae ein staff yng Nghymru yn cydweithio'n agos gyda phartneriaid megis Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, RSPB, Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru, Cymdeithas Adaryddol Cymro a chlybiau adarydda – ac yn bwysicach na neb, gyda'n aelodau a'n gwirfoddolwyr.

Yr Wyddfa (Snowdon). Vi Poultry
Yr Wyddfa / Snowdon. Vi Poultry

Yr ydym angen mwy o archwilwyr gwirfoddol yng Nghymru er mwyn gwella ein trefn fonitro a phrosiectau ar draws y wlad.

Mae gwybodaeth arbenigol staff BTO Cymru am gefn gwlad a diwylliant Cymru yn golygu y gallant roi adborth i bencadlys y BTO er mwyn sicrhau fod arolygon monitro cenedlaethol ac ymchwil y BTO yn berthnasol i Gymru.

Y BTO ar prosiec ECHOES

Mae y BTO yn bartner yn prosiec ECHOES ( Effaith newid hinsawdd ar gynefinoedd adar o amgylch Môr Iwerddon).

  • Mae ECHOES yn ceisio mynd i'r afael â sut y bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar gynefinoedd adar arfordirol ym Môr Iwerddon.
  • Mae yn archwilio a pha effaith y gallai hyn ei chael ar ein cymdeithas, ein heconomi, ac ecosystemau cyffredin.
  • Mae'r prosiect yn para o fis Rhagfyr 2019 tan fis Mehefin 2023 ac mae’n dod ynghyd ag arbenigedd a rhanddeiliaid o ddau ochr o Fôr Iwerddon.

The key priority for the ECHOES project is to raise awareness of climate change impacts, as well as how we can monitor, manage and adapt to these impacts.

Ein gwaith hefo cynllun ECHOES

Drwy gydweithio hefo ECHOES mae y BTO (Yddiriolaeth Adareg Prydain) yn defnyddio gwyddoniaeth arlesol fydd yn rhoi dealltwriaeth o ymddygiad a ddosbarthiad y Gylfinir Ewrasiaidd a'r Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las.

Fyddwn yn cyhoeddi canlyniadau y partneriaeth ar ddiwedd y prosiec.

Dyfarnwyd cyllid i’r prosiect gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Raglen Cydweithredu Iwerddon Cymru.

Cysylltwch â ni

Mae swyddfa BTO Cymru wedi ei lleoli yn Adeilad Thoday, Prifysgol Bangor, Ffordd Deiniol, Bangor, Gwynedd LL57 2UW.

Tel: 01248 383285

E-bost BTO Cymru: wales.info [at] bto.org

DEWCH I ADNABOD TÎM BTO CYMRU

Cofrestrwch i dderbyn ein e-gylchlythyr

Yn ein cylchlythyr drwy e-bost rheolaidd, cewch wybod y diweddaraf am ein hymchwiliadau, ein harolygon, cyfleoedd hyfforddi, codi arian, newyddion a'n digwyddiadau.

COFRESTRWCH



Related content