Cudyll Cymru Bird Table 120

Y tu hwnt i'r bwrdd adar. Newyddion o BTO a ymhellach.

Top right: Gweithio gyda’n gilydd


Mae adar ysglyfaethus yn hanfodol i iechyd ecosystemau, gan weithredu fel yr ysglyfaethwr uchaf. Mae eu sensitifrwydd i newidiadau yn argaeledd eu ysglyfaeth, amodau'r cynefin, a'r hinsawdd, yn ei gwneud yn allweddol i ymchwilwyr sydd yn ceisio canfod a monitro newidiadau yn iechyd a gweithrediad ein hamgylchedd a'n ecosystemau. Oherwydd hyn, mae'n bwysig iawn ein bod yn gallu dilyn eu niferoedd, a'r prosesau sylfaenol (fel llwyddiant atgenhedlu) sy'n ysgogi'r rhain. Trwy weithio gyda phartneriaid, mae staff BTO Yr Alban wedi bod yn darparu'r math hwn o wybodaeth ers nifer o flynyddoedd trwy Raglen Monitro Adar Ysglyfaethus yr Alban (SRMS). Rydym eisiau adeiladu ar y dull llwyddiannus a fabwysiadwyd gan SRMS i ddarparu gwybodaeth monitro ar gyfer adar ysglyfaethus yn y gwledydd eraill yn y DU.

Mae prosiect newydd BTO, a lansiwyd yn ddiweddar yng Nghymru, yn cymryd cam sylweddol tuag at gasglu’r wybodaeth monitro sydd ei hangen i gefnogi ymdrechion cadwraeth adar ysglyfaethus, gan hysbysu ymrwymiadau cyfreithiol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i amddiffyn bywyd gwyllt. Enw’r cynllun newydd yw Cudyll Cymru, ac mae’r cynllun yn monitro poblogaethau ac ymarferedd atgenhedlu pedwar rhywogaeth adar ysglyfaethus sydd yn gyffredin yng Nghymru: Bwncath, Cudyll Coch, Barcud Coch a Gwalch Glas. Er bod y Gigfran yn aelod o deulu'r brain, mae'n cael ei gynnwys hefyd oherwydd ei debygrwydd ecolegol i adar ysglyfaethus. Yn bwysig, mae'r prosiect wedi ei ddylunio i gefnogi a hannog pobl o wahanol gefndiroedd a lefelau sgiliau, grymuso gymunedau lleol i ddysgu mwy am eu hadar ysglyfaethus, meithrin teimlad o ofal dros eu cynefinoedd, a hannog cymryd rhan weithredol yn eu cadwraeth.

Mae adar ysglyfaethus yn gallu bod yn heriol i’w hadnabod yn y gwyllt – mae rhai yn hedfan yn uchel iawn, tra bod eraill yn ansylweddol ac yn anodd i’w gweld. Dyna pam bydd tîm Cudyll Cymru yn darparu hyfforddiant cynhwysfawr a chefnogaeth barhaus i bob gwirfoddolwr newydd, gan sicrhau y gall hyd yn oed y rhai heb unrhyw brofiad blaenorol gymryd rhan yn hyderus yn y prosiect hwn. Bydd yr arolwg yn cychwyn yn gynnar y gwanwyn nesaf, a cyn hynny bydd y hyfforddiant yn cael ei cynnal. Os ydych yn byw yng Nghymru a hoffech fonitro un neu fwy o'r rhywogaethau targed ar ardal leol rydych chi'n ei dewis, ewch i wefan y prosiect i gofrestru eich diddordeb. Dim ond ychydig o dan 700 o bobl oedd wedi cofrestru erbyn diwedd mis Hydref, ond mae angen mwy o wirfoddolwyr i sicrhau'r gorchuddiad rhywogaethol a daearyddol sydd ei angen i ddarparu'r data cryf sy'n hanfodol i ein hadar ysglyfaethus sydd yn bridio yn Nhgymru.

Ewch i: www.bto.org/cudyll-cymru.



Related content