Cudyll Cymru – Monitoring Raptors in Wales

Mae Cudyll Cymru yn gynllun newydd sy’n monitro adar ysglyfaethus yng Nghymru. Dysgwch fwy am y prosiect a’i waith pwysig, a darganfyddwch sut i gymryd rhan – beth bynnag fo lefel eich sgiliau a’ch profiad.

Time / Skill Required

  • Hyblyg, o gyn lleied â dwy awr y mis hyd at faint bynnag o amser sydd gennych i’w roi!
  • Mae angen i chi allu adnabod o leiaf un math o aderyn ysglyfaethus cyffredin o’i olwg, a dilyn methodolegau i’w fonitro’n llwyddiannus. Rydym yn darparu hyfforddiant ar gyfer y ddau sgil hyn.
  • Mae fideos, cyrsiau a mentora un i un ar gael i’ch helpu i ddatblygu sgiliau mewn adnabod adar ysglyfaethus, dulliau monitro a chyflwyno eich data.

Mwy am Cudyll Cymru

Dysgwch am y prosiect a pham ei fod mor bwysig.

Sut i gymryd rhan

Dechreuwch ar eich siwrnai monitro adar ysglyfaethus heddiw!

Arweinydd y Prosiect

Charlotte Griffiths

Cydlynydd Monitro Adar Ysglyfaethus Cymru

Cysylltwch â ni

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Ebostiwch ni ar cudyll.cymru [at] bto.org.

Mwy am Cudyll Cymru

Mae adar ysglyfaethus yn adar difyr, carismatig ac mae Cymru’n ffodus i fod yn gartref i 17 o’r 20 rhywogaeth o adar ysglyfaethus sy’n nythu yn y DU.

Mewn gwirionedd, mae adar ysglyfaethus yn nodweddion dynodedig nifer o Ardaloedd Gwarchodedig yng Nghymru, gan gynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig.

Mae Cudyll Cymru yn fenter sy’n monitro poblogaethau a chynhyrchiant nythu pum rhywogaeth o adar ysglyfaethus sy’n gyffredin yng Nghymru: Bwncath, Cudyll Coch, Cigfran, Barcud a Gwalch Glas. Er ei bod yn dechnegol yn perthyn i deulu’r brain, mae’r Gigfran wedi’i chynnwys oherwydd ei thebygrwydd ecolegol i adar ysglyfaethus.

Bydd Cudyll Cymru yn ein helpu i:

  • Gasglu data cadarn am dueddiadau poblogaethau adar ysglyfaethus i wella ein dealltwriaeth ohonynt ledled Cymru, ac o fewn ei rhwydwaith o Ardaloedd Gwarchodedig
  • Ddarparu gwybodaeth hanfodol i gefnogi ymdrechion cadwraeth adar ysglyfaethus ac i lywio ymrwymiadau cyfreithiol Llywodraeth Cymru a’r DU i warchod bywyd gwyllt
  • Alluogi cymunedau lleol i ddysgu mwy am eu hadar ysglyfaethus, meithrin ymdeimlad o ofalaeth ar gyfer eu cynefinoedd ac annog gweithredu i’w gwarchod at y dyfodol

Prif rywogaethau Cudyll Cymru

Pam fod angen y prosiect hwn arnom?

Mae’r dulliau monitro adar sydd gennym ar hyn o bryd yn aml yn ei chael hi’n anodd darparu gwybodaeth am adar ysglyfaethus oherwydd eu bod, fel arfer, yn adar sydd â dwysedd poblogaeth isel a phrin y'i gwelir yn ystod arolygon adar sy’n cael eu cynnal yn y boreau bach!

Nod Cudyll Cymru yw mynd i’r afael â’r bylchau yn y data sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer yr adar eiconig hyn yng Nghymru.

I wneud hyn, mae angen i ni ehangu ein rhwydwaith o wirfoddolwyr, a fydd yn cynyddu faint o Gymru gaiff ei harolygu a’r arbenigedd o fewn y tîm hwnnw o wirfoddolwyr. Dyna pam mae cymaint o ffocws ar hyfforddiant ac uwchsgilio yn Cudyll Cymru.


Cefnogi ymdrechion cadwraeth adar ysglyfaethus

Mae Cymru yn dioddef pwysau ar y cyd gan newid defnydd tir a newid hinsawdd, ac mae adar ysglyfaethus ar y pen blaen o ran dioddef o bwysau ecolegol ac ymyriadau dynol.

Mae angen mwy o ddata arnom am boblogaethau adar ysglyfaethus i ddeall sut a pham mae eu niferoedd yn newid, a sut y gallwn eu helpu.

Bydd y data a gesglir gan Cudyll Cymru yn gweithredu fel gwaelodlin ar gyfer monitro tueddiadau poblogaethau yn y dyfodol, a bydd yn darparu gwybodaeth hanfodol a fydd yn sylfaen i strategaeth gadwraeth effeithiol a chynorthwyo ymrwymiadau cyfreithiol y Llywodraeth i warchod bywyd gwyllt.


Llywio rheolaeth Ardaloedd Gwarchodedig yng Nghymru

Gan fod nifer o adar ysglyfaethus ar frig y gadwyn fwyd maent yn ddangosyddion biotig hanfodol sy’n rhoi syniad i ni am iechyd yr amgylchedd lleol yn gyffredinol.

Mae adar ysglyfaethus yn sensitif iawn i newidiadau fel colli cynefinoedd, argaeledd ysglyfaeth, llygredd a gweithgareddau dynol, sy’n golygu y gallwn ddefnyddio newidiadau mewn poblogaethau adar ysglyfaethus i’n galluogi ni i ganfod y newidiadau hyn mewn da bryd.

Trwy flaenoriaethu monitro’r rhywogaethau allweddol ecolegol hyn o fewn ardaloedd gwarchodedig, megis SoDdGA ac AGA, bydd yr asiantaethau perthnasol mewn sefyllfa gwell i allu asesu effeithiolrwydd strategaethau rheoli cyfredol. Yn y pen draw, bydd hyn yn gwella effeithiolrwydd rhwydwaith ardaloedd gwarchodedig Cymru.

Cymerwch ran yn Cudyll Cymru

A all dechreuwyr gymryd rhan?

Rydym wedi datblygu Cudyll Cymru i fod mor hygyrch i bawb â phosibl!

Mae’r prosiect yn gwbl hyblyg i gyd-fynd â’ch argaeledd a lefel profiad, ac mae digon o hyfforddiant ar gael, felly gall hyd yn oed y rhai heb unrhyw brofiad blaenorol gymryd rhan yn hyderus yn y gwaith pwysig hwn.


Pa sgiliau sydd eu hangen?

Mae angen i chi allu adnabod un neu fwy o bum rhywogaeth darged y prosiect.

  • Y pum rhywogaeth sy’n cael eu monitro gan Cudyll Cymru yw Bwncath, Cudyll, Cigfran, Barcud a Gwalch Glas. Gallwch fonitro mwy nag un rhywogaeth os dymunwch, ond nid oes rhaid i chi wneud hynny.

Mae angen i chi allu cyfrif adar i wneud arolwg o’ch ardal ddewisedig.

  • Os yn bosibl, gallwch hefyd roi cynnig ar fapio tiriogaethau, dod o hyd i nythod a phenderfynu ar nifer y cywion sy’n cyrraedd oedran magu o bob nyth (a elwir yn cofnodi llwyddiant bridio).

Rydym yn darparu hyfforddiant ar bob agwedd ar y prosiect, o adnabod adar ysglyfaethus a methodolegau arolwg i ddefnyddio porth y prosiect ar-lein a chyflwyno eich data – felly nid oes angen i chi feddu ar y sgiliau hyn yn barod i gofrestru!


Faint o amser mae’n ei gymryd?

Bydd yr ymrwymiad amser yn dibynnu ar hyd a lled yr arolwg y byddwch chi’n dewis gwneud a maint eich ardal fonitro, ond lleiafswm o ychydig oriau’r mis yn unig sydd ei angen.

  • Bydd monitro’n digwydd yn ystod y tymor nythu, sef o ddechrau mis Mawrth hyd at ddiwedd mis Awst fel arfer ar gyfer y rhan fwyaf o adar ysglyfaethus.
  • Dylid cyflwyno data i’r porth mewnbynnu data (Cudyll Cymru Ar-lein) erbyn diwedd mis Medi.

Llinell amser y prosiect

  • Gwanwyn 2024 Y prosiect yn derbyn cyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri
  • Haf 2024 Penodwyd ein Cydlynydd Monitro Adar Ysglyfaethus (Cymru) ac mae’r gwaith yn dechrau
  • Hydref 2024 Cyn-gofrestru cyfranogwyr yn dechrau
  • Gaeaf 2024 Cyfle i ddewis safle a hyfforddiant i gyfranogwyr
  • Gwanwyn 2025 Arolygon tymor nythu cyntaf (Bwncath, Cudyll, Barcud, Gwalch Glas)
  • Gwanwyn 2026 Arolygon tymor nythu cyntaf (Cigfran)


Ble caiff yr arolwg hwn ei gynnal?

Chi sy’n dewis eich ardal arolygu yng Nghymru i’w monitro: gall hwn fod yn rhywle sy’n lleol i chi, eich hoff le i fynd â’r ci am dro efallai neu’ch taith ddyddiol i’r gwaith.

  • Bydd modd i chi ddewis ardal eich arolwg wedi i chi gofrestru.

Hyfforddiant a chefnogaeth

Methodoleg adnabod yr adar a’u harolygu

Gall fod yn heriol adnabod adar ysglyfaethus yn eu cynefin – mae rhai yn esgyn i uchder mawr, tra bod eraill yn swil ac yn anodd ei gweld. Dyna pam rydym yn darparu hyfforddiant cynhwysfawr a chefnogaeth barhaus i bob gwirfoddolwr newydd, gan sicrhau bod hyd yn oed y rhai heb unrhyw brofiad blaenorol yn gallu cymryd rhan yn hyderus yn y gwaith pwysig hwn.

Bydd cyfres o ddeunyddiau, megis fideos adnabod adar a chanllawiau ysgrifenedig, methodolegau arolwg a sut i gofnodi lleoliadau yn gywir gan ddefnyddio cyfeirnodau grid ar gael i gyfranogwyr, ynghyd â chefnogaeth bersonol gan Gydlynydd Monitro Adar Ysglyfaethus Cymru.

Hefyd, bydd gweithdai rhithwir ac wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal yn rheolaidd i ddatblygu sgiliau sy’n cyfnerthu’r gwaith o fonitro’r adar anhygoel hyn, megis adnabod plu ac ymgymryd â gwaith maes.

Cyflwyno eich data

Mae gan Cudyll Cymru borth ar-lein hawdd ei ddefnyddio lle gallwch storio a rheoli eich cofnodion personol. Bydd ein Cydlynydd Monitro Adar Ysglyfaethus wrth law i’ch helpu i gychwyn arni a thra boch chi’n cyfrannu i’r prosiect, i sicrhau y gallwch gyflwyno’ch data yn gyflym ac yn rhwydd i’w dadansoddi gan wyddonwyr BTO. Mae gennym hefyd sesiynau tiwtorial wedi’u teilwra am gyflwyno data, yn ogystal â llawlyfr canllaw cynhwysfawr.

Elfen bwysig o’r prosiect hwn yw sicrhau bod y methodolegau, y cyflwyno data a’r adrodd yn ôl mor syml â phosibl i’r rhai sy’n megis dechrau ar eu profiad cyntaf o fonitro adar ysglyfaethus.

Cofrestrwch ar gyfer y prosiect

Mae’r prosiect yn cael ei lansio’n swyddogol ym mis Ionawr 2025, gyda’n monitoriaid hyfforddedig yn barod i ddechrau eu gwaith arolygu.

Os hoffech ymuno a’r prosiect, llenwch ein ffurflen ar-lein ac fe wnawn ni gysylltu â chi i’ch rhoi ar ben ffordd.

Partneriaid y prosiect ac ariannu

Ariennir y prosiect hwn gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur.

Mae’n cael ei ddarparu gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.