Cudyll Cymru BTO News Winter 2024
Cudyll Cymru – dull monitro newydd ar gyfer adar ysglyfaethus cyffredin yng Nghymru
Mae adar ysglyfaethus yn adar hynod o diddorol a charismatig, a mae Cymru yn gartref i 17 o’r 20 rhywogaethau sydd yn bridio a welod yn yr DU. Mae eu hecoleg a'u hymddygiad yn digon arbennig bod gwirfoddolwyr angen sgiliau gwahanol a dulliau i'w monitro. Cudyll Cymru, a lansiwyd yn ganol mis Hydref, yw dull monitro sy'n seiliedig ar ardaloedd ac yn canolbwyntio ar bedwar adar ysglyfaethus cyffredin (Bwncath, Cudyll Coch, Barcud Coch a Gwalch Glas) a Gigfran, sydd â llawer o nodweddion ecolegol cyffredin â adar ysglyfaethus ac sydd hefyd yn debyg o gael eu monitro'n llai yng Nghymru. Mae'r prosiect hwn wedi cael ei adeiladu ar gyfer y tymor hir, er mwyn ein helpu i ddeall yn well y dosbarthiad a demograffeg y rhywogaethau hyn ar draws Cymru – yn enwedig yn ei ardaloedd amddiffynedig. Bydd gwell data ar gyfer y rhywogaethau arbennig hyn yn cefnogi ac yn hysbysu ymdrechion cadwraeth, a chyflawni ymrwymiadau cyfreithiol Llywodraeth Cymru i amddiffyn bywyd gwyllt. Os hoffech chi gyfranogi, ewch i www.bto.org/cudyll-cymru-cymraeg i gofrestru. Dewch â'ch diddordeb a'ch brwdfrydedd, a byddwn ni'n eich helpu ar bob cam i ehangu a datblygu eich sgiliau fel y bo'r angen. Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur a mae'n cael ei gyflwyno gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.
Share this page